Beth Angharad.
World full of Media / Byd Llawn Cyfryngau
Profiad Gwaith
Rydw i wedi bod yn lwcus iawn i fynd ar lawer o brofiad gwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Ar y gwefan yma rydw i yn sôn am yr amrywiaeth o brofiad gwaith rydw i wedi bod ar sy'n cynnwys profiad gwaith fel gweithredwr camera, rhedwr, cynhyrchydd, golygydd, sain a llawer mwy.
Gwaith Stiwdio
Yn ystod y tair blynedd diwethaf yn astudio Cynhyrchu yn y Cyfryngau yn Brifysgol De Cymru rydw i wedi profi fod yn rhan o griw i wahanol raglenni yn y stiwdio cynhyrchu. Rydw i wedi bod yn weithredwr camera sawl gwaith i raglen ar-lein '4Barsrest' yn gweithio yn agos gyda Chyfarwyddir Dafydd Parri. Rydw i hefyd wedi bod yn rheolwr llawr, gweithredwr camera a sain i raglen teledu 'Bowns'.
Aberystwyth
Es i deithio i Aberystwyth i gymryd rhan yn dîm cynhyrchu i ffilmio a chreu 3 promo’s gyda’r clipiau. Roedd 1 o’r fideos ar gyfer ‘Y Lle’ ar S4C. Gan astudio cwrs 'Cynhyrchu yn y Cyfryngau' rydw i'n ffodus iawn i allu teithio o gwmpas Cymru ar gyfer gwahanol brosiectau. Mae hyn yn gwneud i bob dydd fod yn wahanol ac yn un cyffrous.